Swyddfa Archwilio Cymru – Datganiad i’r Wasg (12 Mehefin 2019)

Gwyliwch ein hadnodd data rhyngweithiol a wnaed gyda Power BI

 

PEDWAR BWRDD IECHYD YNG NGHYMRU'N GORWARIO ETO

Rhywfaint o gynnydd cadarnhaol, ond nid oedd yr Archwilydd Cyffredinol yn gallu cymeradwyo cyfrifon pedwar bwrdd iechyd am y drydedd flynedd yn olynol

 

Unwaith eto, methodd pedwar o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru gyflawni eu dyletswydd ariannol i fantoli'r cyfrifon dros gyfnod o dair blynedd, yn ôl eu cyfrifon ar gyfer 2018–19.

 

Gwnaeth y pedwar corff – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (a elwir yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bellach) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – fethu â chyflawni eu dyletswydd gyfreithiol hefyd i fod â chynllun tair blynedd cymeradwy. O ganlyniad, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi gorfod rhoi barn archwilio amodol ar gyfrifon pob un o’r pedwar corff.

 

Derbyniodd y chwe bwrdd iechyd arall ac ymddiriedolaethau'r GIG farn archwilio lân, oherwydd gwnaethant gyflawni eu dyletswyddau o ran mantoli'r cyfrifon a bod â chynlluniau tair blynedd cymeradwy. Gwnaeth tri o'r pedwar bwrdd iechyd a fethodd â chyflawni eu dyletswyddau wella eu sefyllfa ariannol o'i chymharu â’r llynedd, gan gofnodi diffygion llai o faint yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, gwnaeth cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddirywio unwaith eto, gan gofnodi diffyg o £41.3 miliwn yn ystod y flwyddyn. Cynyddodd y gorwariant cronnus dros dair blynedd ar draws y GIG o £364 miliwn i £411 miliwn.

 

Mae'r ffigurau hyn i gyd wedi'u nodi mewn offeryn data newydd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gyhoeddi heddiw.

 

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gynyddu'r gwariant refeniw ar iechyd £231 miliwn ar gyfer 2018–19. Pan ystyrir chwyddiant, mae hyn yn gyfateb â chynnydd o 1.5% mewn termau real. Fodd bynnag, roedd y cynnydd hwn yn is na'r swm y mae'r cyrff GIG eu hunain, a'r Sefydliad Iechyd annibynnol, yn amcangyfrif sydd ei angen bob blwyddyn ar y GIG i fodloni pwysau cost fel galw cynyddol a chyflogau. O ganlyniad, roedd yn rhaid i bob corff y GIG wneud arbedion a dod o hyd i ffyrdd o reoli'r pwysau cost ar draws y flwyddyn.

 

Nododd cyrff y GIG y gwnaethant gyflawni £158 miliwn o arbedion gyda'i gilydd yn ystod 2018–19. Roedd hyn oddeutu £11 miliwn yn llai nag yn 2017–18. Fodd bynnag, llai o arbedion untro oedd yn gyfrifol am y gostyngiad hwn yn bennaf yn ystod 2018–19. Gwnaeth yr arbedion rheolaidd, sy'n parhau mewn blynyddoedd i ddod, gynyddu o £120 miliwn yn 2017–18 i £125 miliwn. Mae hyn yn awgrymu bod y GIG yn cyflawni arbedion mwy cynaliadwy drwy wneud newidiadau gweithredol hirdymor.

 

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, heddiw:

 

"Mae 2018–19 wedi bod yn flwyddyn heriol i gyrff y GIG yng Nghymru, ac er ei fod yn galanogol gweld bod pob bwrdd iechyd wedi parhau i ddod o hyd i arbedion, nid yw'n dderbyniol, dair blynedd ar ôl i Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 ddod i rym yn llawn, fod pedwar bwrdd iechyd yn parhau i dorri eu cyfrifoldebau cyfreithiol i fyw o fewn eu dulliau ariannol. Rwy'n ffyddiog y bydd y tri bwrdd iechyd a wellodd eu sefyllfaoedd diffyg yn parhau ar eu llwybrau tuag at gynaliadwyedd ariannol. Serch hyn, rwy'n parhau i ofidio'n fawr am sefyllfa ariannol Betsi Cadwaladr, sy'n gwaethygu o hyd, ac, fel y nododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei adroddiad diweddar, am ei allu i ddatrys ei broblemau'n gyflym a rhoi ei hunan mewn sefyllfa lle na fydd yn destun mesurau arbennig."

 

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Claire Power ar 02920 320578 neu e-bostiwch claire.power@archwilio.cymru

Nodiadau i Olygyddion:

·         Gwnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru gyflwyno ei adroddiadau ar gyfrifon cyrff y GIG ar 12 Mehefin. Cyhoeddodd farn archwilio lân ar gyfrifon saith o'r 11 o gyrff y GIG. Cyhoeddodd farn amodol ar reoleidd-dra cyfrifon byrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda a Chaerdydd a'r Fro, oherwydd roedd pob un ohonynt wedi gorwario heb awdurdod ac, felly, wedi methu â chyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i fantoli'r cyfrifon, fel y'i nodwyd yn Neddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014. Gwnaeth y cyrff hyn hefyd fethu â chyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf honno i fod â chynllun tair blynedd cymeradwy.

·         Gellir gweld Offeryn Data Cyllid GIG Cymru yr Archwilydd Cyffredinol drwy wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r offeryn yn cynnwys gwybodaeth amrywiol am sefyllfa ariannol cyrff GIG Cymru ac yn dangos tueddiadau dros amser.

·         Bydd newidiadau diweddar o ran cyrff y GIG yng Nghymru yn cael effaith ar adroddiadau cyfrifon yn 2019–20.   Ym mis Ebrill 2019, bu newid i ffiniau ac enwau dau fwrdd iechyd. Gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bellach, ac nid yw'n gyfrifol mwyach am boblogaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb am boblogaeth Pen-y-bont ar Ogwr a gelwir ef yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bellach. Yn ogystal â hyn, bydd corff newydd – Addysg a Gwella Iechyd Cymru – yn cwblhau adroddiad ar ei flwyddyn weithredol lawn gyntaf ar gyfer 2019–20 ym mis Mehefin 2020.

·         Yr Archwilydd Cyffredinol yw'r archwilydd allanol statudol annibynnol ar gyfer y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Ef sy'n gyfrifol am archwilio'r mwyafrif o'r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys y £15 biliwn o gyllid y pleidleisir arno bob blwyddyn gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo elfennau o'r cyllid hwn i'r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).

·         Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Caiff ei benodi gan y Frenhines, ac ni chaiff ei waith archwilio ei lywio na'i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na'r llywodraeth.

·         Mae Swyddfa Archwilio Cymru'n gorff corfforaethol sy'n cynnwys bwrdd statudol naw aelod. Mae'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro'r Archwilydd Cyffredinol ac yn ei gynghori ar sut i gyflawni ei ddyletswyddau.